Mae Neil Kinnock wedi camu i mewn i’r ras i arwain y Blaid Lafur trwy gefnogi’r cyn Ysgrifennydd Ynni, Ed Miliband.

Yn ôl y Cymro a arweiniodd y blaid rhwng 1983 ac 1992, gan Ed, yn hytrach na’i frawd, David y mae’r rhinweddau sydd eu hangen i arwain.

Ac, yn wahanol i Tony Blair, meddai Neil Kinnock mewn cyfweliad ym mhapur yr Observer, dyw Ed Miliband ddim yn actor.

“Fydden i’n dweud fod gyda fe’r X Factor, yn enwedig pan mai’r X yw’r arwydd yr ’ych chi’n ei roi ar bapur pleidleisio adeg etholiad.”

Mae Neil Kinnock yn parhau i fod yn ddylanwadol ar ochr chwith-ganol y blaid ac fe allai droi pleidleisiau o fewn yr undebau hefyd o blaid Ed Miliband.

Blair – “actor”

Roedd yn canmol David Miliband – y brawd hyna’ o’r ddau a’r cyn Ysgrifennydd Tramor – am ei “ddeallusrwydd mawr” ond yn awgrymu bod gan Ed Miliband gryfderau ychwanegol.

Mae hefyd yn fwy “naturiol a llai ffals” na Tony Blair, meddai Neil Kinnock, gan ddweud bod y cyn Brif Weinidog fel “actor method” … “er bod lle i sgiliau actio”.

Doedd cyn-AS Islwyn ddim yn ystyried bod y ddau o’r asgell chwith, Diane Abbott a John McDonnell, yn ymgeiswyr o ddifri’.