Mae breuddwydion Caerdydd o chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf wedi dod i ben ar ôl colli 3-2 i Blackpool yn Wembley.
Fe aeth Caerdydd ar y blaen dwywaith, ond fe darodd tîm Ian Holloway ‘nôl yn syth i unioni’r sgôr cyn i Brett Ormerod sgorio’r gôl fuddugol ychydig cyn hanner amser.
Fe aeth yr Adar Glas ar y blaen wedi wyth munud ar ôl i Michael Chopra maeddu’r amddiffyn a chanfod cefn y rhwyd.
Ond fe darodd Blackpool ‘nol yn syth gyda’r capten, Charlie Adam yn sgorio o gic rydd ardderchog.
Fe ddaeth ergyd i Gaerdydd yn gynnar yn yr hanner cyntaf pan adawodd Jay Bothroyd y cae oherwydd anaf.
Ond sgoriodd Ledley ail gôl y gêm i’r Adar Glas ar ôl iddo orffen yn dda oddi ar bas wych Peter Whittingham.
Methodd Caerdydd dal ‘mlaen i’w mantais am hir gyda Gary Taylor-Fletcher yn sgorio o gic gornel ar ôl i olwr Caerdydd, David Marshall methu casglu’r bêl.
Yn amser ychwanegol yr hanner cyntaf, fe aeth Blackpool ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm gyda gôl gan Ormerod yn dilyn amddiffyn gwael gan Gaerdydd.
Fe ymdrechodd Caerdydd cynyddu’r pwysau ar Blackpool yn yr ail hanner, ac fe aeth Chopra yn agos gan daro’r trawst.
Cafodd Chopra, Ledley a McCormack gyfleoedd pellach ond methwyd a manteisio.
Roedd amddiffyn Blackpool yn ddigon cadarn i ddal ‘mlaen am y fuddugoliaeth ac ennill eu lle yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf.