Fe fu bron i 50 o gystadleuwyr yn ymrafael heddiw, a phob un yn awyddus i ddod yn Bencampwr Taflu Teisennau Cwstard y Byd.
Fe ddaeth timau o’r Almaen a De Affrica draw i Maidstone yng Nghaint, i gymryd rhan yn yr ornest.
Ond er mai cysylltu teisennau cwstard gyda chomedïwyr fel Charlie Chaplin a Laurel & Hardy wnawn ni, mae yna reolau pendant iawn ynglyn â’r gystadleuaeth.
Rheolau
Mae’n rhaid i gystadleuwyr weithio mewn timau o 4, ac maen nhw’n ennill pwyntiau am daro rhannau penodol o gyrff eu gwrthwynebwyr. Mae’r uchafswm o 6 phwynt i’w ennill am daro’r wyneb.
Fe all y beirniaid hefyd roi pwyntiau am y dulliau mwyaf gwreiddiol o daflu teisennau, yn ogystal â rhoi pwyntiau am wisg ffansi.
Enillwyr eleni
Tim yr High Pressure Cleaning ddaeth i’r brig eleni, gan gael y gorau ar enillwyr y llynedd, Coxheath, yn y ffeinal.
Mae’r gystadleuaeth wedi ei chynnal yng Nghaint ers 1967. Dydi’r teisennau ddim yn cynnwys cwstard mewn gwirionedd – mae’n rysait cyfrinachol.