Y fam sydd wedi cyfadde’ mygu ei dau o blant i farwolaeth gyda bag plastig mewn gwesty yn Sbaen, fydd yn penderfynu p’un ai fydd eu cyrff yn dychwelyd i Brydain ai peidio.
Fe ddaethpwyd o hyd i Rebecca, 5, a’i brawd 11 mis oed, Daniel, yn farw yng ngwesty Hotel Miramar yn Lloret de Mar, ar y Costa Brava, ddydd Mawrth diwetha’.
Mae disgwyl i staff llysgenhadaeth Prydain ymweld â’u mam, Lianne Smith, yn y carchar yn ystod y dyddiau nesaf hyn, er mwyn trafod a ydi am iddyn nhw gael eu hedfan gartref i Brydain, neu eu claddu yn Sbaen.
Y fam
Mae Lianne Smith, 43, yn cael ei dal mewn carchar yn Girona. Fe gyfaddefodd i’r llofruddiaethau mewn llythyrau a adawodd yn yr ystafell. Mae’n cael ei chadw mewn cell ar ei phen ei hun, ac mae gwarchodwyr yn cadw llygad rhag iddi gyflawni hunanladdiad.
Fe fu’r plant farw tua’r un pryd ag y cafodd partner Lianne Smith, Martin Smith, 45, ei ystraddodi i Brydain i wynebu cyhuddiadau o ymosod yn rhywiol ar blant.
Mae adroddiadau yn Sbaen yn awgrymu bod y plant wedi marw nos Lun ddiwethaf, a bod eu mam wedi treulio’r noson honno yn yr un ystafell â’r cyrff.