Mae un o daflegrau yr Unol Daleithiau wedi lladd deg o bobol ym Mhacistan heddiw. Roedd y rheiny’n cynnwys dau derfysgwr honedig, ac wyth o bobol leol sy’n byw ar y ffin ag Affganistan.
Roedd yr ymosodiad yn bwriadu taro cartre’ gwr lleol ym mhentre’ Boya ger Miran Shah, prif dre’ rhanbarth Gogledd Waziristan.
Fe gafodd pump o ferched a dau o blant hefyd eu hanafu yn yr ymosiad, yn ôl swyddogion.
Cefnogaeth answyddogol
Er bod Pacistan yn condemnio’r ymosodiadau yn gyhoeddus, credir eu bod nhw’n cynorthwyo’r Unol Daleithiau yn ei hymdrech i ddod o hyd i derfysgwyr yn yr ardal.
Yn y cyfamser, mae ymladdwyr Taliban wedi ymosod ar filwyr byddin Pacistan ar y ffin ag Affganistan, gan ladd dau soldiwr ac anafu pump arall.