Roedd agweddau dau o weindogion llywodraeth San Steffan tuag at y bresenoldeb milwyr Prydain yn Affganistan yn wahanol iawn i’w gilydd heddiw; wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer trafodaethau wyneb yn wyneb gydag arlywydd y wlad, Hamid Karzai.
Fe hedfannodd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague; yr Ysgrifennydd Diogelwch, Liam Fox; a’r Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol, Andrew Mitchell; i Kabul yn ystod oriau mâ heddiw ar gyfer trafodaethau dwys gyda nifer o wleidyddion amlwg yn Affganistan.
“Mae’n rhaid i ni ail-osod y disgwyliadau a’r amserlen,” meddai Liam Fox. “Diogelwch ein gwlad ni sydd flaenaf ar yr agenda nawr. Nid plismyn byd-eang ydyn ni.
“D’yn ni ddim yn Affganistan er mwyn addysgu gwlad doredig sy’n ymdebygu i wlad o’r 13eg ganrif.
“R’yn ni yn Affganistan er mwyn gwneud yn siwr nad oes neb yn bygwth diogelwch pobol Prydain.”
Gwahaniaeth barn
Ond roedd sylwadau Liam Fox yn mynd yn groes i farn Andrew Mitchell, a fu’n sôn pa mor “allweddol” oedd datblygu Affganistan.
“Mae angen i ni wneud yn siwr ein bod ni’n helpu pobol Affganistan i adeiladu gwladwriaeth weithredol.
“Mae hynny’n golygu rhoi addysg elfennol a gofal iechyd i bobol,” meddai. “Mae hefyd yn golygu rhoi cyfleoedd i bobol gael swyddi.”
Llun: Hamid Karzai, arlywydd Affganistan