Mae David Beckham wedi talu teyrnged i waith “anhygoel” y lluoedd Prydeinig yn Affganistan, ar ymweliad annisgwyl â maes y gad.

Fe fu’r pêl-droediwr yn arwyddo llyfrau llofnodion ac yn tynnu lluniau gyda milwyr yng ngwersyll Camp Bastion yn rhanbarth Helmand, lle mae tua 9,000 o filwyr Prydain yn byw a gweithio.

“Mae gweld sut mae’r milwyr yn ymdopi yn anhygoel,” meddai Beckham. “Mi darodd o fi y tro cynta’ pan o’n i ar y ffordd yma yn yr awyren filwrol.

“Mi allwch chi weld eu hwynebau nhw, mi allwch chi weld eu bod nhw wedi gadael eu teuluoedd, ond eto maen nhw mor ymroddedig i’r gwaith sydd ganddyn nhw i’w wneud yn fan hyn.

“Maen nhw jyst mor barod ar gyfer y gwaith. Mae hynny’n rhywbeth arbennig i’w weld, ac rydach chi’n ei deimlo fo hefyd.”

Trefn y dydd

Fe ddechreuodd Beckham ei ddydd gyda brecwast a sesiwn gwestiwn ac ateb yng nghwmni’r milwyr.

Fe ymwelodd ag ysbyty’r gwersyll wedyn, cyn cael gwers sut i ddefnyddio amryw o ynnau trymion.