Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, wedi cyhoeddi mai’r cyn-seneddwr Fflorida, Bob Graham, fydd yn arwain yr ymchwiliad i’r llif olew yng Ngwlff Mecsico, ynghyd â chyn-swyddog y Asiantaeth Gwarchod yr Amgylchedd, William K Reilly.
“Alla’ i ddim meddwl am ddau berson a allai ddod â chymaint o brofiad gyda nhw i’r gwaith,” meddai Mr Obama.
Mae’n bwriadu penodi pump aelod arall ar y panel, a fydd yn edrych ar bob cam o’r broses – o’r hyn achosodd y llif, i ddiogelwch y sustem o ddrilio am olew yn y môr, yn ogystal â gwaith y Gwasanaeth Rheoli Mwynau (MMS), yr asiantaeth ffederal sy’n rhoi hawl i gloddio.
Mae disgwyl y bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi ymhen chwe mis.
Hanes
Fe ddechreuodd yr olew lifo o’r môr ar Ebrill 20, pan ffrwydrodd rig Deepwater Horizon cwmni BP oddi ar arfordir Louisiana, gan ladd 11 o weithwyr a hollti peipen danfor.
Ers hynny, mae o leia’ 210,000 galwyn o olew wedi bod yn gollwng i’r môr bob dydd, gan fygwth traethau, corsydd, pysgodfeydd a bywyd gwyllt ar hyd yr arfordir.
Fis wedi’r ffrwydriad, fe ddechreuodd pobol leol anniddigo a dangos eu rhwystredigaeth gyda chwmni BP a’u methiant i roi paid ar yr olew. Maen nhw wedi galw ar i lywodraeth America gymryd rheolaeth o’r sefyllfa.