Mae heddlu yn Ffrainc yn dweud fod pedwar o baentiadau gan Picasso, yn ogystal ag un darn arall o’i waith, wedi cael eu dwyn o gartref casglwr yn Marseille.
Fe ddaw’r lladrad yn fuan ar ôl un arall gwerth £85m o Amgueddfa Gelf Fodern Paris – ond mae’r heddlu yn pwysleisio fod y diweddara’ ar raddfa dipyn yn llai.
Curo
Fe lwyddodd dau ddyn i fynd heibio i gatiau diogelwch cartre’r casglwr ddoe, cyn curo ar y drws.
Yna, fe gafodd gwr y ty, sydd yn ei 60au, ei guro gan y lladron, cyn iddyn nhw fynd i mewn i’r ty a chario’r gweithiau oddi yno gyda nhw.
Does yna ddim gwerth wedi ei roi ar y darnau celf.