Mae arweinydd yr undeb llafur sy’n cynrychioli staff caban British Airways, yn dweud nad oes gobaith i drafodaethau lwyddo cyn y bydd Prif Weithredwr y cwmni awyrennau yn newid ei agwedd.

Fe fydd Tony Woodley, cyd-arweinydd undeb Unite, yn cyfarfod Willie Walsh, gyda’r gobaith o ddod â’r bwriad o roi’r gorau i’r bwriad o gynnal 15 diwrnod o streiciau. Fe allai’r gweithredu diwydiannol gostio hyd at £100m i BA.

“Mae’r ddêl sydd ar y bwrdd wedi cael ei gwrthod gan aelodau ein hundeb ni,” meddai, “ac rydw i’n cytuno gyda’r gwrthodiad. Mae hynny oherwydd agwedd y cwmni.

“Mae Mr Walsh yn honni na allwn ni ddelifro unrhyw ddêl. Mae e’n iawn, oherwydd mae’r ddêl sydd ar y bwrdd yn amhosib ei delifro. Felly mae’n rhaid iddo newid.”

Allan o gysylltiad

Mae Willie Walsh wedi cyhuddo’r staff caban o fod “allan o gysylltiad” â bywyd go iawn.
Fe gyhoeddodd BA ddoe eu bod nhw wedi gwneud colled o £531m, ac roedd hynny cyn colli mwy o arian oherwydd y llwch folcanig a chyn wynebu ar gyfnod arall o streics gweithwyr.

Mae cyfanswm colledion British Airways am y ddwy flynedd ddiwetha’ yn £932m.