Mae’r gweinidog yn y llywodraeth glymblaid newydd yn San Steffan â’r cyfrifoldeb tros wneud toriadau mewn gwariant cyhoeddus, wedi rhybuddio mai dim ond dechrau mae’r gwaith trwy dorri’n ôl £6 biliwn o’r pwrs.

Mae David Laws, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, wedi dweud wrth bapur newydd y Financial Times bod mwy o dorri’n ôl yn angenrheidiol.

Ond, fe ychwanegodd y gweinidog o Ddemocrat Rhyddfrydol y byddai’r fwyell yn syrthio yn ôl gwerthoedd y llywodraeth newydd – ac y bydden nhw’n gwneud eu gorau i warchod y bobol fwyaf anghenus.

Fe fydd angen toriadau “llym”, meddai, er mwyn gwneud tolc iawn yn y ddyled o £163bn.

“Dw i’n barod”

“Rydw i wedi paratoi’n feddyliol ar gyfer yr holl gwynion y bydda’ i’n eu cael gan bobol flin iawn,” meddai David Laws wrth y papur.

“Rydan ni’n symud o oes o ddigonedd i oes o dorri’n ôl mewn cyllid cyhoeddus.”