Mae’r Almaen wedi pleidleisio o blaid y cynllun i achub yr ewro.

Fe bleidleisiodd siambr isaf llywodraeth y wlad 319-73 o blaid y cynllun, gydag 195 yn ymatal eu pleidleisiau.

Ddaeth yna ddim gwrthwynebiad gan gynrychiolwyr 16 rhanbarth yr Almaen yn y siambr uchaf ychwaith – fe basiwyd y ddeddf y pnawn yma.

Nawr, mae’r ddogfen yn mynd at yr Arlywydd, Horst Koehler, i gael ei harwyddo – ffurfioldeb yn unig.

Pecyn

Fe ddyfeiswyd y pecyn gwerth 750 biliwn ewro bythefnos yn ôl.

Fe fydd yr Almaen, economi fwya’ Ewrop, yn cyfrannu rhwng 123 biliwn a 147.6 biliwn ewro.

Daw’r pecyn hwn yn fuan iawn wedi i wledydd Ewrop gytuno i becyn achub economi Groeg. Roedd hynny’n amhoblogaidd iawn yn yr Almaen, yn enwedig gan fod yr Almaenwyr yn anghytuno â’r egwyddor o dalu dyledion pobol eraill.

Llun: Canghellor yr Almaen, Angela Merkel (trwydded CCA2)