Mae tri aelod o grwp terfysgol Eta wedi cael eu traddodi i garchar am gyfanswm o 1,000 o flynyddoedd yr un heddiw, a hynny am achosi ffrwydrad a laddodd ddau berson ym maes awyr Madrid.
Fe gafodd y tri eu canfod yn euog gan y Llys Cenedlaethol o lofruddiaeth, y bwriad i lofruddio, a chymryd rhan mewn gweithred derfysgol ar Ragfyr 30, 2006 ym maes awyr Barajas.
Fe ddinistriodd y ffrwydrad faes parcio pum-llawr, lladd dau fewnfudwr o Ecwador ac anafu 41 o bobol eraill.
Roedd Eta wedi derbyn cyfrifoldeb am yr ymosodiad, sef y weithred a ddaeth â’u cadoediad naw mis i ben.
Iawndal
Mae’r tri sydd wedi eu dedfrydu – Mattin Sarasola, Igor Portu a Mikel San Sebastian – wedi eu gorchymyn hefyd i dalu 1.2 miliwn ewro o iawndal i deuluoedd y ddau laddwyd yn yr ymosodiad.