Bydd cynllun Cyngor Gwynedd i ad-drefnu ysgolion ardal y Bala yn sicrhau addysg wledig am yr hanner canrif nesaf.
Dyna ddywed Liz Saville Roberts, yr Arweinydd Portffolio Addysg, sy’n gwrthod y cwynion fod y cyngor am ddinistrio cymuned un o’r pentrefi cyfagos.
Yng Nghylchgrawn Golwg heddiw mae llythyr gan Bwyllgor Amddiffyn Ysgol y Parc yn dweud bod cynllun Cyngor Gwynedd i gau’r ysgol yn mynd i ddinistrio Cymreictod y pentref.
Bydd pobol y Parc a Chymdeithas yr Iaith yn protestio yng Nghaernarfon ddydd Llun, wrth i’r argymhellion yn cael eu trafod.
Ond mae Liz Saville Roberts yn bendant y bydd cau’r ysgol, ac anfon y 18 disgybl i ysgol OM Edwards dair milltir i ffwrdd yn Llanuwchllyn, yn cryfhau addysg wledig a’r Gymraeg yn y dalgylch.
“Mae cyfuno dwy garfan o Gymry Cymraeg yn mynd i gryfhau’r iaith,” meddai Liz Saville Roberts wrth gyfeirio at Asesiad Ardrawiad Iaith.
“Yn ôl yr adroddiad mae cefndir ieithyddol y Parc ac OM Edwards yn hynod debyg – 70% o blant yn dod o deuluoedd lle mae rhieni yn siarad Cymraeg.”
Y cynllun ar gyfer dalgylch y Bala yw cyfuno dwy ysgol gynradd ac ysgol uwchradd y dref yn un ysgol fawr – ‘Ysgol Gydol Oes’ i blant 3-18 oed – a chadw tair o’r pedair ysgol wledig.
Gweddill y stori yn Golwg, Mai 20