Mae Cheryl Gillan, y ddynes gynta’ i fod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi dweud mai ei phrif nod yw gwella’r berthynas rhwng San Steffan a Bae Caerdydd.

Mae’n dweud ei bod wedi ei syfrdanu bod y Blaid Lafur, tra mewn grym, wedi gwneud cyn lleied o waith trefnu ar gyfer y refferendwm ar fwy o rym i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Wrth ymwled â Bae Caerdydd yr wythnos ddiwethaf, soniodd AS Amersham a Chesham wrth Gylchgrawn Golwg am y wefr o ddod yn aelod o Gabinet Con-Dem David Cameron a Nick Clegg.

“I ddechrau, mae’n fraint ac yn anrhydedd i fod y fenyw gyntaf yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac wrth gwrs gan fy mod i’n Gymraes, mae yna elfen anferthol o emosiynol iddo fe,” meddai’r wraig sy’n falch o ddweud bod ei phasbort yn nodi Llandaf, Caerdydd fel ei man geni.

“Ond, mae’n rhaid dechrau ar y gwaith yn syth. Y peth cyntaf wnes i ar ôl cael sêl awdurdod gan Ei Mawrhydi y Frenhines oedd dod i Gaerdydd, i weld fy swyddfa yma. A’r cyfarfod cyntaf ges i oedd gyda’r Prif Weinidog.”

Bydd Cheryl Gillan a Carwyn Jones yn cyfarfod yn ffurfiol unwaith y mis i drafod unrhyw faterion sy’n codi, gan gyfarfod yn amlach os oes angen.

Mae Cheryl Gillan yn gobeithio dod i Fae Caerdydd i ateb cwestiynau’r aelodau yn fisol hefyd.

“Yn amlwg, bydd anghytuno o dro i dro, dydw i ddim yn bod yn afrealistig. Ond yn gyffredinol rwy’n credu os allwn ni gael perthynas fusnes dda a bod ein swyddogion ni’n gallu gweithio’n agos â’i gilydd, Cymru fydd ar ei hennill.”

Gweddill y stori yn Golwg, Mai 20