Does dim tystiolaeth fod cau ysgolion bach gwledig yn arbed arian.

Dyna farn mudiad o Bowys – Hyrwyddo Ysgolion Bach (HYB) – oedd yn y Senedd i lansio papur ymchwil gan gwmni ymgynghori annibynnol o Gaergrawnt i arbedion cau ysgolion bach.

Yn ôl y gwaith ymchwil, dim ond 2% o gyllideb ysgolion cynradd Cymru fyddai’n cael ei arbed, o gau pob ysgol sydd â llai na 90 o ddisgyblion.

Mae’r cwmni ymgynghori hefyd yn dadlau nad oes digon o ymchwil wedi ei wneud i gost cludo plant o’u pentrefi i ysgolion pellach i ffwrdd, gan ddweud bod costau teithio rhwng £500 a £1,900 y disgybl.

“Mae hynny o dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu y byddai cau ysgolion yn arbed y nesaf peth i ddim, neu hyd yn oed ddim arian o gwbwl i’r gyllideb addysg,” meddai John Milsom o HYB, mudiad o rieni a llywodraethwyr ysgolion bychain Powys.

Mae plaid Llais Gwynedd ar Gyngor Gwynedd wedi pwyso am ohirio cau ysgolion i roi amser i’r Cynulliad ymchwilio i’r mater.

“Mae rhywun yn cael amheuon am yr holl arbedion,” meddai Alwyn Gruffudd o Lais Gwynedd.

“Does dim hanner digon o waith cartref i oblygiadau’r penderfyniadau i gau ysgolion. Yn naturiol rydan ni’n croesawu’r gwaith ymchwil ac mae’r canfyddiadau yn cadarnhau’r hyn mae Llais Gwynedd yn ei ddweud.”

Gweddill y stori yn Golwg, Mai 20