Artist o Israel sydd wedi cyfuno ffotograffiaeth, ffilm a fideo i bortreadau bywyd bob dydd yn ei famwlad enillodd wobr gelf fawreddog Artes Mundi neithiwr.

Trechodd Yael Bartana artistiaid o bob cwr o’r byd er mwyn ennill y bedwaredd wobr o £40,000 sy’n cael ei gwobrwyo bob dwy flynedd.

Mae celf bob un o’r artistiaid ar y rhestr fer yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Roedd artistiaid o Beriw, Bwlgaria, Taiwan, Rwsia, Kyrgyzstan ac Albania hefyd yn cystadlu.

Bwriad y wobr yw rhoi platfform cyfoes i artistiaid sydd wedi sefydlu’u hunain yn eu gwledydd ond heb gael llawer o sylw ym Mhrydain.

“Rydan ni’n byw mewn oes lle mae gofyn i ni wynebu pryderon llwythol a thiriogaethol – lle mae gan ddadleuon am ffiniau cenedlaethol a rhanbarthol ganlyniadau dinistriol,” meddai’r Athro Sarat Maharaj, oedd yn cadeirio panel y beirniaid.

Disgrifiodd y gystadleuaeth fel un o “safon uchel” gan ddweud fod “pob un o’r artistiaid yn haeddu cydnabyddiaeth.”

Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru,: ” Mae Artes Mundi yn fenter celfyddydol arwyddocaol a llwyddiannus, ac rwy’n falch bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cefnogi’r wobr o’r dechrau.

“Mae effaith y wobr yn mynd tu hwnt i Gymru a Phrydain ac mae’n cyrraedd cynulleidfaoedd rhyngwladol.”