Mae asgellwr Caerdydd, Chris Burke, wedi dweud y bydd eu hymdrech dros y tymor diwethaf yn ofer os nad ydy’r Adar Glas yn trechu Blackpool dydd Sadwrn.

Mae’r Albanwr yn targedu ennill dyrchafiad gyda Chaerdydd yn ei dymor llawn cyntaf gyda clwb y brifddinas.

“Mae’n gêm enfawr, ac mae pawb yn gwybod hynny. Mae pob chwaraewr ac aelod o staff y clwb am sicrhau dyrchafiad yn ogystal â rhoi rhywbeth ‘nôl i’r cefnogwyr,” meddai Burke wrth bapur yr Echo.

“Mae’r garfan yn hapus ac mae pawb yn edrych ‘mlaen i’r gêm.

“R’yn ni wedi gweithio’n galed i gyrraedd y rownd derfynol, ond mae popeth yn dibynnu ar y perfformiad ar y dydd yn Wembley.”

Bydd y garfan yn teithio lawr i Lundain ddydd Gwener i baratoi ar gyfer y gêm yn Wembley sy’n cychwyn am 3.00pm dydd Sadwrn.