Mae dyn ifanc wedi marw ar ôl disgyn oddi ar bont yn ardal y Betws, Rhydaman ddoe.

Fe fu farw’r dyn 27 oed yn yr ysbyty ar ôl y digwyddiad ym Mhontaman, Rhydaman tua 11pm neithiwr.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i beth ddigwyddodd ac yn trin amgylchiadau’r farwolaeth fel rhai anesboniadwy.

Maen nhw hefyd yn apelio ar i unrhyw dystion i gysylltu gyda nhw ar 101.