Mae dyn lleol yn yr ysbyty ac mewn cyflwr difrifol ar ôl dioddef o glwyf ergyd gwn yn Llangollen ddoe.

Fe gafodd yr heddlu a’r Gwasanaethau Ambiwlans eu galw i’r digwyddiad toc wedi hanner awr wedi un.

Fe gafodd y dyn ei gludo’n syth i Ysbyty Maelor Wrecsam lle mae’n parhau i gael ei drin. Mae o mewn cyflwr difrifol.

Fe ddaeth yr Heddlu o hyd i’r dryll ac maent yn cynnal archwiliad fforensig ohono. Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio er mwyn darganfod beth ddigwyddodd.

Fe ddylai unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu ar 08456071001.

Does dim mwy o fanylion ar hyn o bryd.