Mae AS Canol Caerdydd, Jenny Willott, wedi galw ar yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i atal cynlluniau i gau rhan o’r M4 nos Sadwrn.

Bydd nifer o gefnogwyr Caerdydd yn teithio i Lundain dydd Sadwrn i wylio’r gêm rhwng Caerdydd a Blackpool yn Wembley, ond mae’r Asiantaeth Priffyrdd yn bwriadu cau rhan o’r M4 er mwyn cwbwlhau gwaith cynnal a chadw.

Dywedodd Jenny Willott y byddai’r gwaith trwsio yn arwain at lawer o oedi i gefnogwyr sy’n teithio ‘nôl o’r gêm.

“Dyma un o’r gemau pwysicaf yn hanes Caerdydd, ac fe fydd tyrfaoedd mawr yn teithio i Wembley i gefnogi’r clwb,” meddai Jenny Willott.

“Fydd y gêm ddim yn gorffen tan o leia’ 5.00pm ac nid fydd hi’n bosib i bobol osgoi cael eu dal yn y traffig.

“Nid yn unig bydd hyn yn achosi problemau i’r cefnogwyr ond hefyd i’r teithwyr eraill a fydd hefyd yn gorfod ymdopi gyda lot fawr o draffig ar y ffordd.

“Rwy’n gobeithio bydd yr Asiantaeth Priffyrdd yn ystyried oedi’r gwaith trwsio am rai oriau.”

Sgrin fawr

Bydd cefnogwyr Caerdydd sydd heb docynnau i’r gêm fawr yn Wembley yn gallu gwylio’r Adar Glas ar sgrin fawr ym Mae Caerdydd.

Mae’n un fuddugoliaeth yn unig i ffwrdd o chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf.

Mae Cyngor Caerdydd wedi trefnu y bydd sgrin fawr ar gael yn Roahl Dahl Pass er mwyn i’r cefnogwyr gael y cyfle i ddangos eu cefnogaeth i dîm Dave Jones.

Bydd cyfle i hyd at 7,000 o gefnogwyr ymgynnull i wylio’r gêm yn y bae am 1.00pm ac hyd at hanner awr ar ôl i’r gêm orffen.

“Mae’n achlysur enfawr i’r ddinas ac i’r cefnogwyr sydd heb docynnau i Wembley,” meddai’r Cynghorydd Nigel Howells.

“Rwy’n siŵr bydd yr awyrgylch yn drydanol gyda phawb tu ôl i Gaerdydd ac yn gobeithio y bydden nhw’n ennill eu lle yn yr Uwch Gynghrair.”