Dringodd dau ymgyrchwr adeilad y BP yn Llundain heddiw er mwyn protestio am olew yng Ngwlff Mexico.

Cododd yr ymgyrchwyr Greenpeace fflag yn dangos logo’r cwmni wedi ei orchuddio gydag olew gyda’r geiriau ‘British Polluters’ oddi tano.

Dychwelodd prif weithredwr BP, Tony Hayward, i Brydain am y tro cyntaf neithiwr ers i blatfform olew Deepwater Horizon ffrwydro a suddo ar 20 Ebrill, gan ladd 11 o weithwyr.

Mae disgwyl iddo gadeirio cyfarfod bore ma i drafod effaith tymor hir y trychineb.

Dywedodd ymgyrchwyr Greenpeace y bydden nhw’n ceisio tynnu sylw aelodau’r Bwrdd wrth iddyn nhw gyrraedd pencadlys y cwmni.

“Mae’r clwt olew yng Ngwlff Mexico yn arwain yn ôl at y penderfyniadau sydd wedi eu gwneud yn yr adeilad yma,” meddai un o’r protestwyr, Ben Stewart, 36, o ogledd Llundain.

“Dan arweinyddiaeth Tony Hayward mae BP wedi cymryd risg enfawr wrth chwilio am olew mewn llefydd mwy a mwy anghysbell.

“Maen nhw wedi torri eu buddsoddiad mewn prosiectau egni glan a fyddai’n gallu lleihau ein dibyniaeth ar olew a maeddu newid hinsawdd.

“Mae logo gwyrdd golau BP yn ymgais truenus i guddio beth mae’r cwmni yn ei wneud yng Ngwlff Mexico ac mewn llefydd eraill.”

Dywedodd Heddlu’r Met eu bod nhw’n credu bod tua wyth o brotestwyr ar do’r adeilad.