Mae’r awdur Llwyd Owen wedi lansio ei nofel Saesneg gyntaf, ‘Faith, Hope and Love’ – addasiad o’i nofel Gymraeg Ffydd Gobaith Cariad.
Wrth addasu’r nofel mae wedi ”parhau â’r broses greadigol” ac wedi datblygu’r gwaith, meddai wrth Golwg360.
Mae’r nofel yn symud rhwng dau gyfnod amser ac yn pontio gwahanol ddosbarthiadau cymdeithasol Caerdydd.
Mae’r naratif yn dilyn hanes Alun Brady, 30 oed, o Gaerdydd. Daw ei dad-cu Paddy i fyw yn y llofft sbâr ac mae’n pledio ar Alun i’w helpu i farw.
R’yn ni hefyd yn dilyn Alun hynach sydd newydd ei ryddhau o’r carchar ac yn ei ddilyn wrth iddo geisio ymdopi gyda byd hollol wahanol.
Llyfr y Mis
Enillodd fersiwn Cymraeg y nofel wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2007. Mae’r fersiwn Saesneg eisoes wedi ei ddewis yn Llyfr y Mis Mehefin yn siopau llyfrau annibynnol Cymru.
Nid cyfieithiad yw’r nofel o’r gwaith Cymraeg, meddai’r awdur wrth Golwg360 cyn dweud ei fod wedi “cael amser i weithio ar y stori a’i addasu” ar gyfer y fersiwn Saesneg.
“Roedd addasu’r nofel yn gyfle i ddatblygu’r stori eto,” meddai am y fersiwn newydd sy’n 100 tudalen yn llai na Ffydd Gobaith Cariad.
“Dydw i heb newid y plot na’r naratif gwreiddiol, gan mai hwnna oedd y peth cryfaf yn Ffydd Gobaith Cariad. Roedd o jest yn gyfle i mi newid rhai pethau am y gwreiddiol. Rhywbeth fyddai’n amhosibl petai rywun arall yn gyfrifol am yr addasiad,” meddai’r awdur.
‘Cyfieithu’ a dwyieithrwydd
Un o ddiddordebau’r awdur yw darllen ffuglen o Siapan a Rwsia.
“Yn aml, mae’r llyfrau hyn wedi’u cyfieithu a dw i’n ceisio dyfalu beth sydd wedi mynd ar goll,” meddai cyn dweud bod ganddo’r fantais fel awdur “ddwyieithog” i “addasu ei waith ei hun”.
Un o’r prif bethau a’i sbardunodd i addasu’r nofel i’r Saesneg oedd er mwyn galluogi ei wraig a’i deulu, sydd ddim yn gallu darllen Cymraeg, i fwynhau ei waith. “Dw i wedi llwyddo i wneud hynny,” meddai.
“Byddai’n neis gwerthu 100,000 o gopïau ond mae hynny’n annhebygol iawn o ddigwydd,” meddai.
Cymru – ‘un farchnad’
“Mae yna wir ryddid creadigol i sgwennu yn yr iaith Gymraeg oherwydd bod Cymru mor fach,” meddai Llwyd Owen.
“Un farchnad sydd, ac mae pawb yn rhan ohono, er ein bod ni gyd yn sgwennu pethau gwahanol. Ond, yn Saesneg, Rwsieg a Siapan mae mwy o bobl yn sgwennu o ar gyfer y diwydiant ac ar gyfer genre penodol. Mae gyda ni ryddid absoliwt yma yng Nghymru,” meddai.
Dywedodd yr awdur ein bod yn “cymryd ein llenyddiaeth o ddifrif” yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar ddilyniant i’w nofel gyntaf Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau.