Fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi pwysau ar Lywodraeth newydd Prydain i wella’r system drenau yng Nghymru, gan gynnwys trydaneiddio’r gwasanaethau o Lundain.

Dyma fydd neges y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, mewn araith i Gynhadledd Trafnidiaeth Genedlaethol ICE Cymru, yng Nghaerdydd heddiw.

Fe fydd yn gofyn i’r Llywodraeth newydd gadw at addewid ei rhagflaenydd i drydaneiddio’r lein o Paddington i Abertawe erbyn 2017.

“Dw i am weld cysylltiadau rheilffyrdd cyflym yng Nghymru sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain,” meddai.

“Mae trydaneiddio rheilffordd Great Western, a’r gwasanaethau i ogledd Cymru, yn hollbwysig er mwyn datblygu ein heconomi.”

Gofyn am gyfarfod

Ac yntau hefyd yn gyfrifol am yr economi a thrafnidiaeth yn Llywodraeth y Cynulliad, fe ddywedodd Ieuan Wyn Jones y bydd yn chwilio am gyfarfod buan gyda’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn Llundain.

Fe ddywedodd yr arbenigwr trafnidiaeth Stuart Cole wrth Radio Wales mai Cymru yw’r unig wlad yn Ewrop sydd heb unrhyw drenau trydan – ac mae hynny’n cynnwys gwledydd tlawd fel Albania.