Fe fydd yr hysbyseb deledu gyntaf ar gyfer gwasanaethau erthylu yn cael ei darlledu’r wythnos nesaf.
“Wynebu tabŵ” a chodi ymwybyddiaeth am iechyd rhyw yw’r amcan yn ôl clinigau Marie Stopes, sy’n rhoi cyngor ynglŷn ag osgoi beichiogrwydd ac erthylu.
Ond mae disgwyl gwrthwynebiad mawr gan fudiadau ‘bywyd’ , sy’n gwrthwynebu erthylu’n llwyr. Eisoes, mae rhai’n dweud y bydd yr hysbysebion yn “bychanu” bywyd dynol.
‘Angen gwybodaeth’
“Mae’n amlwg fod cannoedd o filoedd o wragedd sydd eisiau ac angen gwybodaeth a chyngor ynglŷn ag iechyd rhyw a chael gafael ar wasanaethau,” meddai Prif Weithredwr Marie Stopes International, Dana Hovig.
Roedd y mudiad wedi derbyn 350,000 o alwadau ar ei llinell gymorth 24 awr yn 2009, meddai. Mae’n gobeithio y bydd yr hysbyseb newydd yn annog pobol i siarad am eu “dewisiadau” ac yn rhoi grym i wragedd wneud penderfyniadau “hyderus a gwybodus.”
‘Grotesg’
Ond mae llefarydd ar ran yr elusen Life, Michaela Aston, yn dweud bod yr hysbyseb yn awgrymu mai dewis masnachol arall yw erthylu. Mae’r syniad yn “grotesg” meddai.
Mae llefarydd ar ran y Gymdeithas Amddiffyn Plant sydd heb eu Geni, Anthony Ozimic, hefyd wedi gwrthwynebu’r hysbyseb.
“Bydd caniatáu hysbysebu erthylu ar y teledu yn arwain at ladd rhagor o fabanod ac at ragor o wragedd a merched yn dioddef ôl-effeithiau erthylu”, meddai.
Safonau
Mae’r Asiantaeth Safonau Hysbysebu wedi dweud y bydd yn rhaid i unrhyw hysbyseb gydymffurfio â rheolau pendant ynglŷn â bod yn gymdeithasol gyfrifol a chywir.
Roedd 195,300 o wragedd o Gymru a Lloegr wedi cael erthyliadau yn 2008.