Mae gan Forgannwg gyfle da i guro Gloucestershire a chryfhau eu safle tua brig yr Ail Adran ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

O ddechrau ddoe 160 o rediadau ar ôl y tîm o Gaerloyw, fe lwyddon nhw i orffen eu batiad cynta’ yng Nghaerdydd 166 ar y blaen a chipio un wiced gyda phelen ola’r dydd.

Roedd yna sawl record hefyd wrth iddyn nhw sgorio 583 am 9 – ei sgôr ucha’ erioed i Ben Wright, ei gant cynta’ yn y Bencampwriaeth i Jim Allenby a’r bartneriaeth ucha’ am y saith wiced rhyngddo ef a’r troellwr Robert Croft.

Record

Fe lwyddodd Ben Wright i sgorio 173, gan gynnwys tri chwech, ac fe gafodd Allenby 105. Roedd y bartneriaeth rhyngddo ef a Robert Croft – a gafodd 63 – yn curo’r record am y seithfed wiced yn erbyn Swydd Gaerloyw.

Roedd y cyfanswm hwnnw o 142 wedi ei osod gan y wicedwr, Eifion Jones, a’r bowliwr, Malcolm Nash, yn ôl yn 1973.

Roedd yn ragor o lwyddiant wrth i Gaerloyw ddechrau ar eu hail fatiad. Fe gymerodd y troellwr Dean Cosker wiced gyda’r belen ola’ i adael y Saeson ar 12-1 … 154 ar y blaen.

• Doedd yna ddim wiced i fowliwr Morgannwg, James Harris, yn ngêm Llewod Lloegr yn erbyn Bangla Desh. Ond fe fowliodd yn dynn, gan ildio dim ond 38 rhediad mewn 13 pelawd ac ef a ddaliodd agorwr Bangla Desh i gael y wiced gynta’.

Llun: Robert Croft – yn chwarae o’r diwedd, ac yn torri record