Mae De Korea wedi addo “gweithredu llym” yn erbyn Gogledd Korea ar ôl ei chyhuddo o saethu’r taflegryn a suddodd un o longau rhyfel y De gan ladd 46 o forwyr.
Fe gyhoeddodd yr Arlywydd Lee Myung-bak ganlyniadau ymchwiliad rhyngwladol i’r digwyddiad ym mis Mawrth.
Ond fe rybuddiodd Gogledd Korea bod canlyniadau’r ymchwiliad wedi eu ffugio ac y byddai unrhyw ymateb gan Dde Korea yn arwain at ryfel.
Fe fydden nhw’n ymateb gyda “ergyd gref a didrugaredd” pe bai De Korea yn ymosod, meddai.
Amlwg, meddai’r adroddiad
Yn ôl yr adroddiad, roedd yna dystiolaeth amlwg mai Gogledd Korea a suddodd y llong rhyfel. Roedd ysgrifen o Ogledd Korea ar y taflegryn a drawodd y cwch, meddai.
“Rhaid gorfodi Gogledd Korea i gyfaddef ei bod wedi bod yn ddrwg a gwneud hynny drwy gydweithredu rhyngwladol cryf,” meddai Lee Myung-bak.
Dywedodd Llywodraeth yr Unol Daleithiau, sy’n cefnogi’r De, bod suddo’r cwch yn weithred ymosodol “annerbyniol” a oedd yn torri cyfraith ryngwladol.
Dywedodd China bod y digwyddiad yn un “anffodus” ond bod angen cadw’r heddwch ar benrhyn Korea.