Fydd capten Cymru, Craig Bellamy, ddim yn chwarae i’w wlad yn erbyn Croatia, wedi’r cyfan.

Fe gyhoeddodd blaenwr Manchester City y bydd rhaid iddo dynnu’n ôl o’r garfan oherwydd anaf i waelod ei goes.

Roedd wedi dweud yn annisgwyl y byddai ar gael ar gyfer y gêm gyfeillgar ar ôl amheuon bod ei yrfa ryngwladol ar ben.

Mae’n golygu bod problemau rheolwr Cymru, John Toshack, yn gwaethygu o ddydd i ddydd.

Hyd yn oed cyn cyhoeddi’r garfan, roedd heb chwaraewyr allweddol fel Aaron Ramsey a doedd aelodau tîm Caerdydd ddim ar gael oherwydd eu gêm fawr yn Wembley.

Bellach, mae saith o’r garfan wedi gorfod tynnu’n ôl hefyd.

Llun: John Toshack – heb y rhan fwya’ o’i chwaraewyr gorau