Erbyn hyn mae yna chwech o wleidyddion yn cystadlu am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.
Yn ôl y BBC, mae’r AS groenddu, Diane Abbott, newydd gyhoeddi y bydd yn sefyll. Cyn hyn, dim ond dynion oedd yn y ras – pob un yn wyn a phedwar tua’r un oed a gyda chefndiroedd tebyg.
Y ddau ddiweddara’ i ymuno yn y ras yw Diane Abbott a’r cyn Ysgrifennydd Iechyd, Andy Burnham, sy’n dweud y bydd yn rhoi’r blaid yn ôl yn nwylo’r aelodau.
Ddoe, fe gyhoeddodd dau arall eu bod yn sefyll, i gystadlu yn erbyn y brodyr Miliband, David ac Ed.
Ed Balls, y cyn Ysgrifennydd Ysgolion, oedd un o brif gefnogwyr y cyn Brif Weinidog Gordon Brown, tra bod John McDonnell yn cynrychioli adain chwith y blaid.
Diane Abbott yn mentro
Fe wnaeth Diane Abbott ei chyhoeddiad ar y rhaglen radio Today – yn ogystal â bod yn AS, mae’n adnabyddus am fod yn byndit gwleidyddol ar raglen y BBC This Week.
Fe lwyddodd i ddyblu ei mwyafrif yn ethoaleth Hackney yng ngogledd Llundain yn yr Etholiad Cyffredinol ac mae’n enwog am siarad tros hawliau sifil.
Yn ôl sylwebwyr, y broblem iddi hi a John McDonnell, fydd cael y 33 o enwebiadau sydd eu hangen gan ASau. Fe allai’r ddau rannu’r gefnogaeth ar y chwith.
Burnham yn addo uno
Fe fydd Andy Burnham yn addo trefn newydd sy’n golygu cadw mewn cysylltid bob dydd gydag aelodau’r blaid a rhoi grym yn ôl yn nwylo’r gynhadledd flynyddol.
Fe fydd yn dadlau ei fod yn gallu uno’r blaid gan nad oedd erioed wedi cymryd ochr yn y dadlau rhwng Tony Blair a Gordon Brown.
Y brodyr Miliband yw’r ffefrynnau o hyd – David Miliband yw’r hyna’ a’r mwya’ profiadol ond mae llawer yn ffafrio Ed Miliband, y cyn Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd.
Llun: Diane Abbott (o’i gwefan)