Mae plant gydag anableddau o ogledd Cymru yn gorfod aros cymaint â 23 mis i gael cadair olwyn, meddai Aelodau Cynulliad.
Mae pobol mewn oed yn yr ardal hefyd yn gorfod aros yn hwy na phobol yn ne Cymru, meddai aelodau’r Pwyllgor Iechyd, sy’n galw am gael gwared ar yr annhegwch rhwng gwahanol ardaloedd.
Fe fydd oedolion ag anghenion cymhleth yn gorfod aros cymaint â 15 mis hefyd.
Galw am gynllun strategol
Mae’r Pwyllgor wedi galw am gynllun strategol ar gyfer Cymru gyfan er mwyn cael gwared ar y gwahaniaeth o ardal i ardal. Dim ond 21 diwrnod yw’r amser aros am gadair olwyn gyffredin yn y De.
“R’yn ni wedi clywed rhai sylwadau cadarnhaol am y gwasanaethau ond mae’n amlwg fod problemau, gan gynnwys amseroedd aros hir am gadeiriau olwyn, yn arbennig yn y Gogledd,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Darren Millar.
Fe ddangosodd adroddiad y Pwyllgor mai’r bobol gyda’r problemau dwysa’ oedd yn gorfod aros fwya’ ac roedd y problemau’n waeth yn y Gogledd os oedd pobol yn byw ymhell o’r ganolfan ddosbarthu yn Wrecsam.
Gweithredu
Mae’r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, wedi addo y bydd yn ystyried yr adroddiad ond mae’n dweud hefyd ei bod eisoes yn gweithredu.
Mae un corff yn cael ei sefydlu i gynnal y gwasanaeth ar draws Cymru ac maen targedau a ffyn mesur wedi’u creu.
Yn y gorffennol, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gwario mwy na £500,000 er mwyn torri rhestrau aros – ar y pryd, roedd rhai pobol yn gorfod aros am 50 mis.
Llun: Mae Edwina Hart yn dweud ei bod eisoes yn gweithredu