Mae adeiladau’n dal i fudlosgi ar draws Bangkok heddiw wrth i’r milwyr frwydro yn erbyn yr olaf o’r protestwyr wedi’r trais gwleidyddol gwaethaf ers 20 mlynedd.

Llwyddodd y fyddin i wagio canol prifddinas Gwlad Thai o’r rhan fwyaf o’r protestwyr ddoe, ond fe gafodd wyth o bobol eu lladd ac 88 eu hanafu.

Ond mae pryder bod ymosodiad y fyddin ar wersyll y protestwyr wedi gwaethygu’r argyfwng gwleidyddol ac y gallai’r aflonyddwch ledu i ranbarthau yn y gogledd a’r gogledd ddwyrain.

Cyrffiw

Cyhoeddodd y Prif Weinidog Abhisit Vejjajiva waharddiad tridiau ar unrhyw un yn crwydro’r ddinas a 23 rhanbarth aralll rhwng 9pm a 5am.

Er bod arweinwyr y Crysau Coch wedi rhoi’r gorau iddi, roedd rhai protestwyr yn parhau i ymladd y bore yma ac fe roddwyd canolfan siopa fawr ar dân yn ystod y nos.

Wrth iddi dywyllu neithiwr roedd hi’n bosib gweld bod sawl adeilad pwysig yng nghanol Bangkok ar dân, gan gynnwys y gyfnewidfa stoc, y prif gwmni pŵer, banciau, sinema ac un o ganolfannau siopa mwyaf Asia.

Amgylchynu teml

Amgylchynodd yr heddlu deml oedd yn llawn o brotestwyr, y rhan fwyaf yn ferched, plant, a hen bobol, a’u harwain oddi yno i swyddfa’r heddlu.

Dywedodd llygaid dystion bod rhai o’r protestwyr yn crio a nifer yn ofnus y byddai’r fyddin yn eu carcharu fel cosb am brotestio.

Ers i’r Crysau Coch ddechrau eu protest yng nghanol mis Mawrth mae o leiaf 75 o bobol – y rhan fwyaf yn ddinasyddion – wedi eu lladd a tua 1,800 wedi eu hanafu.

Fe allai rhai o’r arweinwyr gael eu dienyddio ac mae llywodreath y wlad wedi gofyn i bobol eu rhoi yn nwylo’r awdurdodau.