Fe fydd y Llywodraeth newydd yn torri’r dreth ar fusnesau ac yn ei symleiddio hefyd.

Dyna oedd addewid y Canghellor, George Osborne, yn ei araith fawr gynta’ ers dod i’r swydd.

Ar yr un pryd, fe glywodd alwad gan brif fudiad y cyflogwyr, am fod yn fentrus wrth ddiwygio’r gwasanaethau cyhoeddus a’u “hail gynllunio’n radical”.

Neithiwr, fe ddywedodd George Osborne wrth ginio cymdeithas y cyflogwyr, y CBI, y byddai’n creu map pum mlynedd ar gyfer symleiddio a gostwng y dreth gorfforaeth ar fusnesau.

Fe ddatgelodd rywfaint o’r manylion a fydd yn nogfen bolisi’r Llywodraeth heddiw. Fe fydd honno’n dweud mai’r “nod yw creu’r drefn dreth gorfforaeth fwya’ cystadleuol” o blith holl wledydd cyfoethog y G20.

Yn ystod ymgyrch yr Etholiad, roedd y Ceidwadwyr wedi addo gostwng y dreth gorfforaeth o 28c yn y bunt i 25c, ond wnaeth y Canghellor ddim rhoi ffigwr union neithiwr.

Croeso

Fe gafodd araith George Osborne groeso mawr gan y penaethiaid busnes wrth iddo addo gwella’r amgylchiadau ar eu cyfer nhw a’i gwneud yn fwy deniadol i fusnesau fuddsoddi yng ngwledydd Prydain.

Ond roedd yna neges iddo yntau gan Lywydd y CBI, Helen Alexander. Fe ddywedodd wrtho bod angen ad-drefnu mawr ar y gwasanaethau cyhoeddus er mwyn torri’n ôl ar ddiffyg cyllid y Llywodraeth.