Mae’r Unol Daleithiau wedi ymddiheuro’n ffurfiol i’r llwythau brodorol yno am eu “polisïau anghywirl” a’r trais yn eu herbyn nhw.
Darllenodd y Seneddwr Gweriniaethol Sam Brownback ddatganiad cyngresol o flaen cynrychiolwyr o bum llwyth o frodorion ym Mynwent y Gyngres yn Washington.
Roedd cynrychiolwyr o’r Cherokee, Choctaw, Muscogee, Sisseton Wahpeton Oyate a Pawnee yno.
Mae pedwar o’r pump yn Oklahoma a mae’r Sisseton Wahpeton Oyate yn South Dakota.
Roedd y Cherokee yn wreiddiol o dde ddwyrain yr Unol Daleithiau ond bu’n rhaid iddyn nhw ymfudo i Oklahoma yn yr 1800au cynnar.
Ymateb y brodorion
Dywedodd Chad Smith, pennaeth tylwyth y Cherokee, nad oedd y rhan fwyaf o’r llwythau wedi gofyn am ymddiheuriad ffurfiol gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau ond ei fod yn gwerthfawrogi’r ymdrech.
“Mae’n anodd ymddiheuro ac weithiau mae’n anoddach derbyn ymddiheuriad,” meddai. “Unwaith yr ydych chi’n rhoi problemau’r gorffennol i’r neilltu, y cam nesaf yw meddwl a allech chi wneud rhywfaint yn well y tro yma?
“Dyw hanes yr Unol Daleithiau tuag at yr Indiaid Brodorol ddim yn un gloyw iawn. Y cwestiwn go iawn yw, beth fydd yn digwydd o heddiw ymlaen?”