Fe fydd arweinwyr y glymblaid yn Llundain yn cyhoeddi dogfen bolisi fanwl heddiw i ddangos beth fydd rhaglen y Llywodraeth tros y blynyddoedd nesa’.
Fe fydd yn rhoi rhagor o gig ar esgyrn y cytundeb brys a gafodd ei arwyddo’r wythnos ddiwetha’ wrth i’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol gytuno i gydweithio.
Y disgwyl yw y bydd rhai o’r polisïau mewn 32 maes gwahanol yn gwylltio’r rhai ar y naill ochr neu’r llall, wrth i’r ddwy blaid orfod cyfaddawdu rhywfaint.
Gwerthu’r Post?
Eisoes, mae rhai o’r papurau’n proffwydo y bydd yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable o’r Democratiaid, yn mynd ati ar unwaith i werthu’r Post Brenhinol, gan fentro ennyn dicter yr undebau.
Fe allai agwedd y Llywodraeth newydd at hawliau dynol fod yn ddadleuol hefyd – roedd y Ceidwadwyr wedi addo cael gwared ar y Ddeddf Hawliau Dynol ond fe fydd y Democratiaid wedi ceisio amddiffyn hynny.
Mae’n ymddangos yn eitha’ sicr y bydd y pecynnau gwerthu tai HIPS yn cael eu dileu – y bwriad oedd ei gwneud hi’n fwy diogel a chynt i brynu tai ond mae’r diwydiant wedi bod yn feirniadol iawn ohonyn nhw.
Addo rhannu grym
Yn y rhagair ar y cyd i’r ddogfen heddiw, mae disgwyl y bydd y Prif Weinidog, David Cameron, a’i ddirprwy, Nick Clegg, yn gosod blaenoriaethau’r Llywodraeth newydd, gan addo rhannu grym o’r canol.
Fe fyddan nhw’n dweud mai gwarchod diogelwch gwlad yw prif ddyletswydd unrhyw lywodraeth ac mae delio â’r argyfwng ariannol yw’r dasg fwya’.
Llun: Cyn dod yn ffrindiau David Cameron a Nick Clegg yn y dadleuon teledu (Gwifren PA)