Mae dyn sy’n dioddef o sgitsoffrenia ac wedi llenwi ei ardd gyda gwifrau wedi’u cysylltu i ffrwydron wedi ei ddanfon i’r ysbyty am gyfnod amhenodol heddiw.

Fe wnaeth Donatien Se Sabi Bestrualta Chamchawala, o Goed Duon, Caerffili, osod y trapiau gafodd eu tanio pan aeth plant oedd yn byw drws nesaf i mewn i’r ardd i nôl eu pêl.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod y cymdogion Craig Cheshire a’i wraig a’i blant wedi’u “brawychu ac yn paranoid” ar ôl byw drws nesaf i Chamchawala.

Dywedodd yr erlynydd Nicholas Jones bod y diffynnydd, 31, wedi ei eni gyda’r enw Andrew Webbe ond wedi ei newid yn 2003.

Mae Chamchawala yn gymeriad yn llyfr The Satanic Verses Salman Rushdie a dywedodd yr erlynydd ei fod o “wedi dweud yn ei gyfweliad ei fod o’n uniaethu a’r cymeriad, oedd yn feudwy”.

Dywedodd bod Donatien Chamchawala yn aml yn rhythu ar Craig Cheshire, ei blentyn a’i wraig feichiog o ffenestr uchaf y tŷ.

Dywedodd yr erlynydd eu bod nhw’n aml yn arogli mwg yn dod o dy eu cymydog a bod Donatien Chamchawala yn cadw ei ffenestr a’i ddrws ar agor drwy’r flwyddyn.

Gorchmynnodd Cofiadur Caerdydd, Nicholas Cooke bod Donatien Chamchawala yn cael ei gadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl am gyfnod amhenodol.

“Mae diddordeb mewn ffrwydron ac arfau ac afiechyd meddwl anodd ei drin yn gyfuniad perygl,” meddai.

Nol pêl

Dywedodd yr erlynydd Nicholas Jones bod y plant wedi bod yn chwarae yng ngardd Craig Cheshire pan aeth y bel i mewn i’r ardd drws nesaf.

“Fe wnaethon nhw redeg i mewn i ardd y diffynnydd. Roedd yna bang uchel a dychrynodd y plant am eu bywydau,” meddai.

“Yn ddiweddarach fe ddaeth yr heddlu o hyd i wifren wedi ei osod yng ngardd gefn y diffynnydd.”

Ar adeg arall roedd y teulu yn cael barbeciw pan aeth pêl y plant dros y wal unwaith eto.

“Gofynnodd Mr Cheshire a oedd o’n iawn iddyn nhw fynd i’w nôl o. Roedd Donatien Chamchawla yn yr ardd gefn ac fe amneidiodd ei ben.

“Rhedodd ei ferch saith oed a phlentyn naw oed allan i’r ardd. Roedd yna bang anferth a, ychydig eiliadau wedyn, bang arall. Gwelwyd mwg yn dod o’r ardd.

“Roedd y plant a Mr Cheshire a’i bartner wedi cael braw.”

Ymateb yr heddlu

Ar ôl i Donatien Chamchawla gael ei ddedfrydu dywedodd y Ditectif Prif Uwcharolygydd Ray Wise, o Heddlu Gwent, eu bod nhw’n “hapus gyda’r ddedfryd”.

“Ar ddechrau’r ymchwiliad doedden ni ddim yn siŵr beth oedden ni’n delio gyda fo ac a oedd Chamchawala yn gweithredu ar ei ben ei hun ynteu fel rhan o grŵp.

“Ond daeth i’r amlwg yn reit gyflym ei fod o’n gweithredu ar ei ben ei hun ac nad oedd unrhyw gynllwyn ehangach.

“Mae’n amhosib gwybod beth fyddai’r canlyniad pe baen ni heb ymyrryd pan wnaethon ni, ond mae’n ffaith fod ganddo nifer mawr o ffrwydron oedd yn beryg go iawn i’w hun ac eraill yn y gymuned.”