Mae dau greadur arallfydol o’r enw Mandeville a Wenlock wedi’u datgelu fel wynebau gemau Olympaidd Llundain 2012.

Nod y creaduriaid lliwgar yw apelio at blant at mae posib gweld y stori tu ôl i’r cymeriadau ar wefan y Gemau Olympaidd.

Mae trefnwyr y gemau yn gobeithio y bydd y ddau gymeriad yn hwb masnachol i’r gemau. Mae angen codi £2 biliwn drwy’r sector breifat er mwyn talu am y gemau.

Dywedodd y trefnwyr ei fod o wedi costio “ychydig filiynau o bunnoedd” i greu’r cymeriadau ond doedden nhw ddim yn fodlon datgelu’r union ffigwr.

Bydd Wenlock a Mandeville yn ymddangos ar holl farsiandïaeth y Gemau Olympaidd gan gynnwys teganau a mygiau.

Mae eisoes yn bosib prynu crysau t a bathodynnau pin sy’n cynnwys y ddau o siop ar-lein Llundain 2012.

“R’yn ni’n rhagweld elw o rhwng £70—80 miliwn wrth werthu marsiandïaeth,” meddai cadeirydd y gemau Paul Deighton.

Yn ôl y stori ar y wefan fe grëwyd Wenlock a Mandeville allan o’r diferion olaf o haearn a ddefnyddiwyd i greu’r Stadiwm Olympaidd.

Penderfynodd trefnwyr y gemau i greu cymeriadau arallfydol i gynrychioli’r gemau ar ôl i blant ddweud nad oedd gyda nhw ddiddordeb mewn cymeriad oedd yn fod dynol neu’n anifail.

Fe fydden nhw’n ymweld gydag ysgolion ar draws Prydain er mwyn hybu’r gemau dros y ddwy flynedd nesaf.

Fe fydd y trefnwyr yn gobeithio y bydd y cymeriadau yn cael derbyniad gwell nag logo £400,000 y gemau, wynebodd feirniadaeth lem ar ôl lansio.