Cyhoeddwyd mai asgellwr y Gweilch ac Iwerddon, Tommy Bowe, yw chwaraewr y flwyddyn yn rygbi Cymru.

Ar hyn o bryd mae’r Gwyddel yn paratoi gyda’i ranbarth i wynebu Leinster yn rownd derfynol Cynghrair Magners ar ddiwedd y mis.

Cafodd Bowe ei ddewis yn chwaraewr y flwyddyn gan ei gyd-chwaraewyr ac fe ddaw ar ôl i’r asgellwr gael ei enwi’n chwaraewr gorau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Fe gipiodd Tommy Bowe y wobr o flaen asgellwr y Dreigiau, Aled Brew a chwaraewyr y Gleision, Bradley Davies a Xavier Rush.

Fe arwyddodd Bowe gyda’r Gweilch ddwy flynedd ‘nôl ac mae wedi mynd ‘mlaen i wneud enw iddo hun fel ffefryn mawr gyda chefnogwyr Stadiwm Liberty.

Fe chwaraeodd ran allweddol yn nhîm Iwerddon wrth iddynt ennill y Gamp Lawn am y tro cyntaf mewn 61 o flynyddoedd yn 2009, cyn chwarae yn y tair gêm brawf i’r Llewod yn Ne Affrica dros yr haf.