Mae dau Aelod Seneddol arall wedi dweud heddiw eu bod am ymuno yn y ras i ddewis arweinydd i’r Blaid Lafur, ac mae disgwyl i un arall wneud cyhoeddiad yfory.
Mae’r cyn Ysgrifennydd Plant, Ed Balls, wedi dweud ei fod am ymgeisio i olynu Gordon Brown, yn ogystal â’r meinciwr cefn, John McDonnell.
Mae disgwyl hefyd i’r cyn Ysgrifennydd Iechyd, Andy Burnham, ymuno â’r ornest yfory.
Mae’r brodyr David ac Ed Miliband – cyn Ysgrifennydd Tramor a chyn Ysgrifennydd Ynni – eisoes wedi dechrau ymgyrchu.
‘Gwrando ar yr etholwyr’
Dywedodd Ed Balls heddiw y bydd gwrando ar beth sydd gan yr etholwyr i’w ddweud yn rhan ganolog o’i ymgyrch.
John McDonnell yw’r unig ymgeisydd sydd ddim wedi bod yn aelod o gabinet Llafur Newydd, ac wrth gyhoeddi ei ymgyrch heddiw, dywedodd ei fod am geisio symud y blaid yn ôl at ei gwreiddiau adain chwith.
Mae disgwyl y bydd Andy Burnham yn dechrau ei ymgyrch yfory drwy alw am ailgysylltu’r blaid efo’i chefnogwyr traddodiadol.
Mae disgwyl iddo hefyd dalu teyrnged i’r ddau gyn Prif Weinidog Llafur Newydd, Tony Blair a Gordon Brown, gan ddweud hefyd fod angen i genhedlaeth newydd ailadeiladu’r blaid.