Mae Dirprwy Prif Weinidog llywodraeth San Steffan, Nick Clegg wedi addo arwain y newidiadau mwyaf i ddemocratiaeth Prydain mewn dwy ganrif wrth iddo osod ei gynlluniau ar gyfer diwygiadau gwleidyddol.

Yn ei araith gyntaf ers cael ei benodi i’r rôl, fe ddywedodd Nick Clegg bod y llywodraeth newydd yn mynd i drawsnewid gwleidyddiaeth. Byddai hyn yn sicrhau llai o reolaeth gan y wladwriaeth dros y bobl a mwy o reolaeth gan y bobl dros y wladwriaeth.

Mae llywodraeth clymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn sôn am wneud gwelliannau i’r drefn bresennol, gan gynnwys:

• Seneddau am gyfnodau penodol o bum mlynedd,
• Tŷ’r Arglwyddi etholedig neu’n rannol etholedig
• Refferendwm ar newid y system pleidleisio
• Pŵer gan bleidleiswyr i ddiswyddo ASau sy’n euog o drosedd

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol bod hyn yn cynrychioli’r newid mwyaf i ddemocratiaeth ym Mhrydain ers Deddf Diwygio’r Senedd 1832.

“Mae’r llywodraeth yn mynd i estyn y pŵer ‘nôl i’r bobl, oherwydd dyna sut r’y ni’n adeiladu cymdeithas deg,” meddai Nick Clegg.