Mae Lee Beach- capten tîm saith bob ochr Cymru yng Nghwpan y Byd llynedd- wedi dychwelyd i’r garfan ar gyfer dau gymal olaf y gyfres saith bob ochr.

Mae’n golygu bod ‘na dri aelod o’r tîm gipiodd pencampwriaeth y byd yn Dubai yn erbyn yr Ariannin yn rhan o’r garfan, ar ôl i fewnwr y Gweilch, Rhys Webb a Craig Hill o Gasnewydd cael eu cynnwys hefyd.

Bydd Cymru’n cystadlu yn erbyn timau gorau’r byd yn Llundain a Chaeredin dros y pythefnos nesaf wrth i’r gyfres saith bob ochr ddod i ben ar ddiwedd y mis.

I Lundain dros y Sul

Mae hyfforddwr tîm saith bob ochr Cymru, Paul John wedi dweud bod ei dîm yn edrych i sicrhau cysondeb yn eu perfformiadau wrth iddynt baratoi i wneud y daith i Twickenham, pencadlys rygbi Lloegr y penwythnos yma.

“Gyda thymor y clybiau wedi dod i ben, fe gafodd Lee Beach ei ryddhau gan Gymry Llundain ar gyfer y ddwy gystadleuaeth. Fe fydd yn siŵr o ychwanegu profiad i’r tîm, yn enwedig gan fod Justin Tipuric a Chris Davies yn absennol oherwydd anafiadau,” meddai Paul John.

“R’y ni’n edrych ‘mlaen i chwarae yng nghystadleuaeth Llundain- dyma’r agosaf r’y ni’n dod i chwarae adref yn y gyfres, ac r’y ni’n gobeithio bydd ‘na gefnogaeth Cymreig yn Twickenham.

“Mae gennym ni grŵp anodd gyda Seland Newydd gyntaf, Kenya sy’n gyson iawn a Phortiwgal sydd hefyd gyda thîm saith bob ochr da.

“R’y ni wedi dangos ein bod ni’n gallu maeddu’r gorau, gyda buddugoliaeth yn erbyn Fiji yn Adelaide, ond mae’n rhaid i ni ymdrechu i gael cysondeb yn ein perfformiadau yn y grŵp i gyrraedd yr wyth olaf. Fe fyddai’n wych gorffen y tymor ar nodyn uchel,” ychwanegodd Paul John.

Carfan Cymru

Jevon Groves (capten, Cross Keys), Rhys Shellard (Caerdydd), Ifan Evans (Llanymddyfri), Craig Hill (Casnewydd), Lee Beach (Cymry Llundain), Lee Rees (Academi’r Scarlets), Alex Walker (Dreigiau), Rhys Webb (Gweilch), Rhys Jones (Cornish Pirates), Gareth Davies (Caerdydd), Lloyd Williams (Gleision), Alex Cuthbert (UWIC)