Ni fydd Padraig Harrington yn bresennol ym Mhencampwriaeth Agored Cymru yn y Celtic Manor fis nesaf oherwydd llawdriniaeth ar ei ben glin.
Mae capten tîm Ewropeaidd y Cwpan Ryder, Colin Montgomerie wedi bod yn awyddus i ymgeiswyr ar gyfer y tîm gael profiad o chwarae ar y cwrs cyn cystadlu yn erbyn yr Unol Daleithiau ym mis Hydref eleni.
Roedd Harrington wedi cyhoeddi ei fwriad i gystadlu yng Nghasnewydd ar ddechrau’r mis, ond erbyn hyn mae wedi tynnu ‘nôl.
“Mae ‘na ddarn o gartilag rhydd ac mi fyddaf yn dioddef o wynegon oni bai fy mod i’n ei gael allan,” meddai Harrington.
“Bydden ni wedi hoffi chwarae ym Mhencampwriaeth Agored Cymru gan fy mod i’n hoffi’r cwrs.
“Ond mae’n rhaid i mi edrych ar ôl fy iechyd ac mae’n golygu cael y llawdriniaeth,” ychwanegodd y Gwyddel.
Mae’n debyg mai Luke Donald fydd yr unig chwaraewr o blith yr ymgeiswyr ar gyfer y tîm Ewropeaidd bydd yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth sy’n cychwyn ar 3 Mehefin.
Bydd y golffiwr Cymreig, Rhys Davies yn cystadlu ac yn anelu i fod y Cymro cyntaf i ennill y gystadleuaeth.