Mae ymgyrch newydd wedi’i lansio sy’n annog pobl i roi cynnig ar brofi “Gwyliau Go Iawn” yng Nghymru.

Mae’r Ymgyrch “Gwyliau Go Iawn” yn defnyddio pobl ‘go iawn’ sy’n cael profiadau o wyliau ‘go iawn’ yng Nghymru.

Dywedodd Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth ei fod yn gobeithio y bydd yr ymgyrch newydd yn “gwella sefyllfa Cymru fel cyrchfan dwristiaeth.”

“Wrth fynd ati i ddatblygu’r ymgyrch hon, y bwriad oedd cyfleu teimlad gwirioneddol o’r hyn mae’n ei olygu i fod ar wyliau yng Nghymru,” meddai Alun Ffred Jones.

“Mae pobl sy’n ymweld â Chymru yn canolbwyntio ar eu hymdeimlad o antur yn hytrach na chanolbwyntio ar gael lliw haul,” dywedodd cyn dweud fod twristiaeth yn “hanfodol i economi Cymru.”

I wylio’r ymgyrch ar-lein <http://www.visitwales.co.uk/proper-holidays>

Gwyliau Golff

Hefyd, mae Croeso Cymru wedi datblygu hysbyseb deledu newydd yn ymwneud â Golff.

Bydd yn cael ei ddangos yn ystod y misoedd nesaf a’r cyfnod sy’n arwain at gystadleuaeth golff Cwpan Ryder ym mis Hydref.

Unwaith eto, mae’r hysbyseb newydd yn defnyddio pobl ‘go iawn’ – grŵp o golffwyr yn cael profiadau ar drip golff yng Nghymru.

Y llynedd, mewn amodau economaidd anodd, cafwyd cynnydd o 18% mewn twristiaeth Golff o’i gymharu â 2008.