Mae’r fyddin yn annog milwyr benywaidd i fynd a chondomau i ryfel, ar ôl i fwy nag 140 o ferched beichiog gael eu gyrru adref o Irac ac Afghanistan.

Yn ôl y rheolau rhaid symud merched beichiog o faes y gad yn syth, sy’n costio arian mawr i’r fyddin.

Cafodd 102 merch feichiog eu hedfan allan o Irac a 31 eu hedfan allan o Afghanistan rhwng Ionawr 2003 a Chwefror 2009.

Maen nhw wedi cynnwys hysbyseb yng nghylchgrawn y fyddin, Soldier, yn rhybuddio milwyr, nyrsiau a staff gweinyddol benywaidd i ddefnyddio dulliau atal cenhedlu.

Mae’n debyg bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn pryderu ynglŷn â nifer y merched sy’n beichiogi mewn canolfannau milwrol, lle mae tua 50 dyn i bob merch.

Mae’r fyddin yn caniatáu perthynas rywiol rhwng milwyr o’r un rheng ar yr amod nad ydyn nhw’n effeithio ar eu gwaith.