Mae cwmni awyrennau BA yn gobeithio atal streic fydd yn ychwanegu at eu problemau dros y dyddiad nesaf, oriau yn unig cyn i filoedd o staff wrthod gweithio.

Yfory fyddai’r cyntaf mewn 20 ddiwrnod o streicio, wrth i’r llwch folcanig gau meysydd awyr ac ychwanegu at broblemau BA.

Mae BA ac undeb Unite yn gobeithio cynnal cyfarfod heddiw, ac fe fydd y ddwy ochor yn cyfarfod ar wahân gyda’r gweinidog trafnidiaeth newydd Philip Hammond.

Yn ogystal â hynny mae BA yn gobeithio y bydd achos llys yn Uchel Lys Llundain yn dod a’r streic i ben cyn iddo ddechrau.

Mae Unite yn disgwyl i filoedd o weithwyr gefnogi’r streic, wrth i arweinydd y criwiau caban gyhuddo’r cwmni o fod yn “ddialgar”.

Dywedodd Tony Woodley, cyd-arweinydd Unite, eu bod nhw wedi dod i gytundeb mewn egwyddor gyda BA fyddai’n dod a’r anghydfod gwreiddiol ynglŷn â thal a swyddi i ben.

Ond roedd yr anghydfod yn parhau am nad oedd BA yn fodlon adnewyddu consesiynau teithio staff aeth ar streic ym mis Mawrth, meddai.

“Mae BA wedi dweud fod hyn yn frwydr tros ddyfodol tymor hir y cwmni. Mae pob gofyniad wedi’i gytuno mewn egwyddor o leiaf, gyda Unite.

“Dylai cwsmeriaid, cyfranddalwyr a bwrdd BA fod yn gofyn pam bod y streic yn mynd yn ei flaen.”

Dywedodd BA eu bod nhw wedi rhoi cynnig teg i Unite a bod rhaid i’r cwmni awyrennau dorri costau er mwyn sicrhau ei fod o’n goroesi, ar ôl dwy flynedd o golledion mawr.