Ni fydd dau o feysydd awyr mwyaf Prydain yn gallu hedfan awyrennau am gyfnodau ysbeidiol heddiw diolch i’r cwmwl o lwch folcanig o Wlad yr Iâ.

Mae ofnau y bydd y llwch yn drech na miloedd o deithwyr sydd eisiau hedfan o Heathrow a Gatwick. Roedd y ddau faes awyr ar gau tan 7am heddiw ond fe fydden nhw’n ail agor ‘yn rhannol’ yn ystod y dydd.

Mae unrhyw awyrennau o Ogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru hefyd wedi’u llorio tan amser cinio, ac mae rhybudd y bydd yr oedi yn cael effaith am sawl diwrnod i ddod.

Bydd Maes Awyr Caerdydd ar gau o 7am tan 1pm ar y cynharaf.

Ni fydd unrhyw awyrennau yn cyrraedd Gatwick tan o leiaf 1pm, ac fe fydd Heathrow yn dioddef o oedi ac awyrennau wedi’u canslo’n gyfan gwbl.

Fe fydd rhai meysydd awyr fel Manceinion, Glasgow a Stansted ar agor drwy’r dydd, ond mae’r llywodraeth yn cynghori teithwyr i tsecio gyda’r cwmnïau hedfan cyn gadael am y maes awyr.

Daw’r oedi diweddaraf mis ar ôl i losgfynydd Eyjafjallajokull yng Ngwlad yr Iâ arwain at ganslo ehediadau ar draws Ewrop.