Mae Ysgrifennydd newydd Cymru’n gobeithio cael refferendwm datganoli “cyn gynted â phosib” ond mae wedi methu â rhoi addewid y bydd yn digwydd yn yr hydref.
“Dw i eisiau gwneud hyn cyn gynted ag y galla’ i ond fyddai neb yn maddau i fi petawn i’n torri corneli,” meddai Cheryl Gillan. “Mae’n rhaid gwneud y gwaith yn iawn. Os yw’n bosib, byddwn yn ei hoffi cyn gynted â phosib.”
Unwaith eto, wrth siarad ar raglen fore Radio Wales, fe gyhuddodd ei rhagflaenydd, Peter Hain, o fethu â gwneud dim i baratoi cwestiwn y refferendwm.
Er ei fod ef yn gwadu’r honiad, fe ddywedodd Cheryl Gillan ei bod wedi “dychryn” at y diffyg. Roedd y Comisiwn Etholiadol yn gofyn am ddeng wythnos i ystyried y cwestiwn a’i brofi, meddai.
Fydd hi ddim yn cymryd rhan yn yr ymgyrch ac fe fydd ASau ac ACau Ceidwadol yn cael rhyddid i gymryd y naill ochr neu’r llall.
Dim amserlen ar Barnett
Doedd yr Ysgrifennydd ddim yn gallu rhoi amserlen chwaith ynglŷn â newid Fformiwla Barnett a’r drefn o roi arian cyhoeddus i Gymru.
Fe ddywedodd eto ei bod o blaid newid y system i’w seilio ar angen a’i bod yn bwriadu cyfarfod yn fuan gyda’r arbenigwr economaidd, Gerry Holtham, sydd wedi cadeirio comisiwn yn galw am newid.
“Dw i’n benderfynol o gael ariannu teg i Gymru,” meddai Cheryl Gillan, a fydd yn cadw cwmni i David Cameron wrth iddo ef ymweld â’r Cynulliad heddiw.
Cyfarfod gyda Carwyn
Fe fyddan nhw’n cyfarfod gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ac maen nhw’n debyg o drafod trydydd addewid a wnaeth y Ceidwadwyr cyn yr etholiad.
Fe gadarnhaodd Cheryl Gillan y byddai Llywodraeth y Cynulliad yn cael cyfle i ohirio toriadau pellach mewn gwario cyhoeddus, os oedden nhw eisiau hynny.
Fe allan nhw osgoi toriadau ychwanegol eleni, ond fe fyddai’n rhaid eu hychwanegu at doriadau’r flwyddyn nesa’.
Llun: Adeilad y Cynulliad