Batio gwael a gafodd y bai am chwalfa Morgannwg yn erbyn tîm ail gyfle’r Unicorns yn y gynghrair 40 pelawd.
Er bod y bowliwr ifanc, Will Owen, wedi cipio 5 wiced am 27 rhediad ac er bod y batiwr, Mark Cosgrove, wedi taro 64 mewn 40 pêl, fe gollodd y Cymry yn erbyn y tîm newydd o chwaraewyr sydd heb gael cytundebau gyda’r siroedd.
Yn ôl hyfforddwr Morgannwg, Matthew Maynard, roedd y batwyr wedi gwneud gormod o gamgymeriadau wrth geisio dal cyfanswm yr Unicorns o 231 am 8. Yn y diwedd, roedden nhw 58 rhediad yn brin.
Gwelliant
Fe fydd yn gobeithio am welliant wrth i’r sir ail afael yn eu hymgyrch yn Ail Adran Pencampwriaeth y siroedd heddiw.
Mae Will Owen wedi ei gynnwys yn y garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Gloucestershire yn Stadiwm Swalec – mae’n cymryd lle James Harris sydd wedi ei alw i chwarae i Lewod Lloegr yn erbyn Bangla Desh.
Mae’r troellwr Robert Croft a’r bowliwr cyflym arall, Chris Ashling, hefyd wedi eu hychwanegu at y garfan sydd wedi codi Morgannwg i’r ail le yn y tabl.
Mae yna 11 mlynedd ers y tro diwetha’ i Forgannwg guro’r tîm o Gaerloyw yng Nghaerdydd.
Llun: Will Owen, bowliwr ifanc Morgannwg