Mae hyfforddwr Cymru wedi dewis tri chwaraewr ifanc di-gap o’r Scarlets ar gyfer sgwad yr haf.

Y newyddion mawr arall yw bod yr wythwr, Andy Powell, yn ôl wedi ei waharddiad am yfed a gyrru mewn bygi golff wedi buddugoliaeth y tîm yn erbyn yr Alban.

Fe fydd y mewnwr Tavis Knoyle, y bachwr Ken Owens a’r blaenasgellwr Rob McClusker i gyd yn ymuno â’r garfan o 27 o chwaraewyr ar gyfer y gêm brawf yn erbyn De Affrica ar 5 Mehefin ac wedyn y daith i Seland Newydd.

“Dw i’n gredwr mawr yn y syniad, ‘os ydyn nhw’n ddigon da, maen nhw’n ddigon hen’,” meddai’r hyfforddwr, Warren Gatland.

Knoyle – y Phillips newydd?

Roedd ganddo ganmoliaeth arbennig i Tavis Knoyle, a fydd yn 20 oed dri diwrnod cyn y prawf yng Nghaerdydd.

Roedd yn ei gymharu gyda phrif fewnwr Cymru, Mike Phillips, gan ddweud fod ganddo “bas dda, cyflymder go iawn a chryfder corff”.

Fe fydd asgellwr y Gweilch, Tom Prydie, yn cael cyfle arall hefyd ar ôl ennill ei gap annisgwyl cynta’ yn erbyn yr Eidal eleni. Dyw e ddim yn chwarae i dîm cyntaf ei ranbarth.

Mae yna chwaraewyr profiadol hefyd, gan gynnwys y capten, Ryan Jones, y maswr Stephen Jones, yr asgellwr Shane Williams, a’r blaenwyr Gethin Jenkins, Adam Jones a Jonathan Thomas.

Y garfan

GLEISION
Bradley Davies, Leigh Halfpenny, Gethin Jenkins, Deiniol Jones, Andy Powell, Richie Rees, Jamie Roberts, Sam Warburton, John Yapp.

GWEILCH
Huw Bennett, Dan Biggar, Andrew Bishop, Lee Byrne, Paul James, Adam Jones, Alun Wyn Jones, Ryan Jones, Mike Phillips, Tom Prydie, Jonathan Thomas, Shane Williams.

SCARLETS
Jonathan Davies, Stephen Jones, Tavis Knoyle, Rob McCusker, Ken Owens, Matthew Rees

Wrth gefn
(yn hyfforddi gyda’r sgwad yng Nghymru ac ar gael os bydd anafiadau)

GLEISION
Chris Czekaj, Thomas Rhys Thomas.

GWEILCH
Ian Gough, Craig Mitchell

SCARLETS
Martyn Roberts

DREIGIAU
Will Harries, Gavin Thomas, Jason Tovey

Llun: Andy Powell yn y garfan unwaith eto