Mae cadfridog byddin oedd yn gweithio i brotestwyr Crysau Coch Gwlad Thai wedi marw heddiw, pum diwrnod ar ôl iddo gael ei saethu gan saethwr cudd.
Dywedodd Sianel 9 y wlad yn ogystal â’r papur newydd Thai Rath bod yr Uwch-frigadydd Khattiya Sawasdiphol wedi marw bore ma.
Cafodd Khattiya Sawasdiphol, oedd yn rheoli strategaeth filwrol y Crysau Coch, ei saethu yn ei ben dydd Mercher.
Mae’r ymosodiad wedi arwain at frwydro yn y strydoedd rhwng y protestwyr gwrth-lywodraeth a’r fyddin yng nghanol Bangkok. Mae o leiaf 36 o bobol wedi marw o ganlyniad i’r trais.
Mae’r Crysau Coch wedi bod yn protestio ers canol mis Mawrth gan alw am ymddiswyddiad y Prif Weinidog Abhisit Vejjajiva ac etholiadau newydd.
Yn y cyfamser mae’r protestiadau gwrth-lywodraeth yn Bangkok wedi lledu i ardaloedd eraill yng Ngwlad Thai wrth i’r fyddin amddiffyn ei ddefnydd o rym.
Mae yna adroddiadau ynglŷn â bws milwrol yn cael ei roi ar dan yn ninas ogleddol Chiang Mai ac roedd yna brotestiadau yn ninasoedd Nongkhai a Udon Thani.
Mae arweinwyr Gwlad Thai wedi wfftio cais y protestwyr i adael iddyn nhw siarad gyda’r Cenhedloedd Unedig er mwyn dod a’r brwydro i ben.
Yn ôl llygaid dystion mae’r protestwyr wedi casglu nifer sylweddol o arfau yn y ‘parth protestio’ milltir sgwâr yn un o ardaloedd mwyaf cyfoethog Bangkok.
Roedd yna sŵn gynnau yn cael eu tanio a ffrwydradau o’r ddwy ochor i’r baricedau yng nghanol Bangkok cyn y wawr heddiw.
Mae’r llywodraeth wedi pwysleisio eu bod nhw’n targedu “terfysgwyr arfog” yn unig.