Fe fydd swyddfa newydd o dan adain y Llywodraeth yn cynnal arolwg llawn o wario cyhoeddus yng ngwledydd Prydain.
Ac mae’r Ceidwadwyr yn cyhuddo Llafur o fod wedi gwneud penderfyniadau gwario “gwallgo” yn ystod eu misoedd ola’ mewn grym.
Y Swyddfa Gyllido Cyfrifol fydd yn cynnal yr arolwg ar ran y Canghellor George Osborne, wrth i’r llywodraeth glymblaid ddechrau ar y broses o geisio torri £6 biliwn o wario cyhoeddus.
Y swyddfa newydd fydd yn gyfrifol am gadw llygad ar wario cyhoeddus yn y dyfodol a hi fydd yn cyhoeddi proffwydoliaethau am gyflwr yr economi a gwario.
Awgrymiadau trethi
Mewn cyfweliadau ddoe, fe roddodd y Prif Weinidog newydd, David Cameron, awgrym neu ddau am newidiadau posib o ran trethi hefyd.
Er nad oedd gan y llywodraeth “unrhyw fwriad” i godi lefel Treth ar Werth, wnaeth e ddim gwadu y gallai hynny ddigwydd.
Roedd hefyd yn sôn am newidiadau mewn treth enillion cyfalaf – capital gains – gan godi’r gyfradd ar gyfer enillion diymdrech fel pris gwerthu ail gartref neu gyfrannau.
Fe fydd y Llywodraeth yn cynnal Cyllideb frys ddechrau Mehefin i osod cynlluniau gwario bras am y tair blynedd nesa’ ac fe fydd yr arolwg gwario yn ystod yr haf a’r hydref yn penderfynu lle’n union y bydd y fwyell yn taro.
Cyhuddiadau tros wario
Roedd y papurau ddoe’n llawn o honiadau am “dyllau du” yng nghyllidebau’r Llywodraeth Lafur, gydag un gweinidog, David Willetts, yn eu cyhuddo o adael “maes llawn bomiau” yn hytrach na rhaglen waith.
Mae’r cyhuddiadau tros wario’n cynnwys £13 biliwn ar awyrennau tancer, £1.5 biliwn ar ymgynghorwyr a £600 miliwn ar gyfrifiaduron newydd.
Fe ymosododd David Cameron ei hun ar y penderfyniad i roi taliadau bonws i tua 75% o uwch weision sifil yn ystod y flwyddyn ddiwetha’.
Ond mae’r cyn Ganghellor Llafur, Alistair Darling, wedi gwadu’r holl honiadau. Fyddai hi ddim yn bosib cuddio gwario, meddai, ac roedd yn annheg awgrymu y byddai gweision sifil wedi gwneud y fath beth.
“Mae pob Llywodraeth yn beio’r un a ddaeth o’i blaen,” meddai.
Llun: George Osborne – dechrau torri (Gwifren PA)